Gŵyl Metamorffosis

Rhan o’r prosiect ymchwil yw’r ŵyl gelf “Metamorffosis”. Cynhelir yr ŵyl yng Ngwynedd a Môn.  Mae artistiaid lleol a rhyngwladol yn cynnig digwyddiadau ac arddangosfeydd hudolus i bob oed gan ddefnyddio fformatau newydd sy'n addas ar gyfer y cyfnod Covid hwn. Mae’r ŵyl hon yn gyfle cyntaf i archwilio sut mae artistiaid yn ymateb yn greadigol i’r heriau a achosir gan bandemig Covid-19. Mae artistiaid yn gwahodd y cyhoedd i brofi digwyddiadau byw artistig am y tro cyntaf yng Ngogledd Cymru ers y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020. Gwahoddir pawb i fynd ar deithiau i'r dyfodol, mynd ar deithiau cerdded, gwylio ffilmiau, gwrando ar synau tŷ gwag, chwarae barddoniaeth oergell enfawr, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio sioe bypedau a mwy.
Mae rhagor o wybodaeth am yr ŵyl, y rhaglen a’r artistiaid cysylltiedig ar gael yma.
Er mwyn casglu gwybodaeth am brofiad pobl yn yr ŵyl, fe wnaethom gynllunio arolwg cynulleidfa. Os gwnaethoch fwynhau un neu fwy o ddigwyddiadau’r ŵyl, byddem yn ddiolchgar pe baech yn cymryd rhan yn yr arolwg. Os felly, dilynwch y ddolen hon.