Ynglŷn ag 'Ail-ddyfeisio'r Digwyddiad Byw'

A yw Covid-19 wedi lladd y digwyddiad byw? Mae llawer yn y Diwydiannau Creadigol yn ofni felly. Fodd bynnag, gallai barn amgen fod: 'Hir oes y digwyddiad byw!' Bydd y prosiect ymchwil yn archwilio’r ddeinameg hon drwy archwilio sut y gall artistiaid ailddyfeisio’r digwyddiad byw drwy ofyn y cwestiynau canlynol:

Sut mae newidiadau cysylltiedig â phandemig i amodau cynhyrchu yn effeithio ar greu celf ar gyfer digwyddiadau byw? Beth yw’r atebion creadigol a archwilir gan artistiaid ar draws genres gwahanol i ailddyfeisio digwyddiadau byw (e.e. safle-benodol, aml-gyfrwng, cyfranogol) o dan gyfyngiadau Covid-19? Sut mae cyfyngiadau Covid-19 yn effeithio ar bŵer cynhenid digwyddiadau byw i greu ymdeimlad o gymuned a galluogi profiadau a rennir? Sut mae cynulleidfaoedd yn ymateb i ddigwyddiadau celfyddydol byw arloesol, a allai ymddangos yn arbrofol ac yn anghyfarwydd iddynt? Sut mae'r pandemig yn newid dealltwriaeth a gwerthfawrogiad pobl o ddigwyddiadau celfyddydol byw? Sut y gellir harneisio newidiadau sy’n gysylltiedig â phandemig i wella gwydnwch yn y sector creadigol yn y dyfodol?

Er mwyn archwilio’r cwestiynau hyn, bydd Sarah Pogoda yn trefnu gŵyl gelfyddydol leol yng Ngogledd Cymru (Mehefin 2021), gan ddod ag artistiaid a pherfformwyr ynghyd gyda’r nod ar y cyd o greu cyfres o ddigwyddiadau awyr agored a dan do byw. Bydd Sarah yn cysgodi, dogfennu a thrafod y gwaith artistig sydd ar y gweill a’r gweithiau celf yn ystod y paratoadau ar gyfer yr ŵyl yn ogystal ag ar ôl yr ŵyl. Bydd artistiaid cydweithredol yn dogfennu eu gwaith sydd ar y gweill ac yn trafod eu gwaith gydag academyddion a rhanddeiliaid mewn cynhadledd ar-lein. Bydd Sarah yn cydweithio ag artistiaid ar erthygl a gyd-awdurwyd, gan sicrhau bod canfyddiadau’r ymchwil ar gael i randdeiliaid allweddol a llywio arfer yn y dyfodol. Byddwch yn gallu cyrchu pob agwedd ar y prosiect ymchwil ar-lein.

Ariennir y prosiect ymchwil gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae'n rhan o alwad UKRI am ymchwil i ymateb i bandemig Covid-19.