Gŵyl Metaboliaeth 2022

Gŵyl Penwythnos o Gelf, Miwsig, Perfformio, Dawns, Ffilm, Cerddi, Rhyfeddodau eraill.

 

Gŵyl Metaboliaeth yn cynnal Parti Gwylio Noson Gelf ym Mangor

(Mae'r llun mewn du, gwyn a choch yn dangos y teitlau Art Night a Meta yn niwlog gyda'i gilydd.)

Dewch i ymuno â Pharti Gwylio’r Noson Gelf ar Fedi’r 20fed (5pm-10pm) ym Mhrifysgol Bangor. Mae Noson Gelf yn rhaglen gelfyddydol fisol newydd sbon a gynhyrchir gan Culture Colony. Mewn partneriaeth ag AM, mae Art Night/Noson Gelf yn ffrydio’n fyw ar-lein yn Gymraeg a Saesneg gan ddod ag artistiaid newydd a sefydledig at ei gilydd. Dros gyfnod o bum awr, caiff digwyddiadau celfyddydol, diwylliannol,  cerddoriaeth, ffilm, a mwy, eu ffrydio’n fyw gan y gymuned greadigol yng Nghymru.

Darlledir Noson Gelf/Art Night yn fyw o stiwdio Culture Colony ym Machynlleth, ond bydd cynhadledd fyw hefyd i Barti Gwylio Bangor. Bydd un o aelodau staff Prifysgol Bangor, Sarah Pogoda (Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau) hefyd yn siarad â Culture Colony am y digwyddiad diweddar Gŵyl Metaboliaeth (19.-21.8.2022), a drefnwyd gan Lisa Hudson a Sarah Pogoda, yn rhan o'r project ymchwil “Ail-ddyfeisio'r Digwyddiad Byw” a ariennir gan yr AHRC.

Ond o ran ailddyfeisio’r digwyddiad ffrydio-byw, bydd gan ein Parti Gwylio ym Mangor ei berfformiadau byw a’i weithgareddau creadigol ei hun hefyd. Os hoffech chi berfformio neu ddangos gwaith celf yn y Parti Gwylio, cysylltwch â Sarah Pogoda (s.pogoda@bangor.ac.uk).

Mae’r parti a’r ffrydio am ddim ac mae croeso i bawb! Cewch fynd a dod fel y mynnoch rhwng 5 a 10pm.

Dewch â'r bwyd rydych chi wedi'i ennill, dewch â phethau i’w rhannu neu mwynhewch rai o'r bwydydd a'r lluniaeth.

Dewch i ni ddathlu gyda’n gilydd y creadigrwydd yng Nghymru.

 

 

19th-21st Awst, Ardal Bangor.

On a photo showing tadpoles in their early stage, text reads A weekend festival of art, music, performance, dance, film, poetry and other marvels 19 to 21 August in Bangor and the area. Text is included bilingually on the image

Ynglŷn â Gŵyl Metaboliaeth 2022

Metabolaeth yw'r broses fiolegol mae’r corff yn ei defnyddio i droi bwyd a diod yn egni. Ond beth am fetabolaeth y meddwl, y dychymyg, iaith a chelfyddyd?

Bydd Gŵyl Metaboliaeth yn cynnwys mwy na deg ar hugain o artistiaid a pherfformwyr, a fydd yn creu pymtheg o ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd byw dros dri diwrnod, yn Ninas Bangor a’r cyffiniau. Dywed Lisa Hudson y bydd yr artistiaid yn archwilio ffyrdd newydd o ymgysylltu, herio a chwestiynu swyddogaeth y perfformiwr, y gynulleidfa, cyfranogwr, a lle.

Gwyl Metaboliaeth yw'r ail ŵyl a grëwyd yn rhan o broject ymchwil AHRC, 'Ailddyfeisio'r Digwyddiad Byw' o dan arweiniad Dr Sarah Pogoda o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau. Roedd Gŵyl Metamorffosis 2021 yn cwestiynu effaith y pandemig ar ymarfer celfyddyd fyw, gan edrych ar atebion creadigol i’r problemau y mae perfformwyr artistig yn eu hwynebu wrth ymwneud â chynulleidfa o dan gyfyngiadau Covid-19. Ond nawr bod yr holl gyfyngiadau wedi'u codi, a aeth artistiaid yn ôl i weithio a chynnal digwyddiadau fel yr oeddent yn ei wneud cyn y pandemig?

Mae Sarah yn pendroni: “Roedd ein Gŵyl Metamorffosis yn 2021 yn archwilio prosesau, sgiliau, ffyrdd o uniaethu â sefyllfa gyda, mewn, ac a grëwyd gan, amgylchiadau y tu hwnt i rai dynol ... a wnaethom ni eu cynnal ar gyfer cyflwr o argyfwng economaidd ac ecolegol sydd wedi ei amlygu ei hun ar ôl y pandemig? Ydyn ni wedi dychwelyd i’r hyn oedden ni o’r blaen neu ydy cyfansoddiad ein cynulliadau wedi newid i fod yn rhywbeth cyfansawdd, yn gyfuniad o fwy na dim ond bodau dynol?”

Y cwestiwn a holai’r Ŵyl Metaboliaeth felly oedd sut mae cyflyrau ffisegol a rhithwir o fod yn uno mewn byd ôl-bandemig? A allem ni gynnal y ffenestri i fydoedd amgen a agorodd Gŵyl Metamorffosis?

Manylion efo’r dolenni

Pryd

Digwyddiad

Lleoliad

Dydd Gwener 19.8.2022

2pm

Big Shiny Cross Durational performance

Penrhyn Avenue, Maes G i Bangor Town Centre

2pm – 6pm

Dorothy Art Installation

Y hen swyddfa post, Bangor

8pm

Map a Damwain Music and Mapping performance

Y Caban, Pontio (outside on Lefel 2)

Saturday 20th August

10.30am

Roda Capoeira Performance

Bangor Clock

11.45 am

Crone Borg ll I’ll loll I’ll p I’ll I’ll l Performance

Aldi Caernarfon Road

2.30

Jodie Mamatung Music performance

Bwyd Da café, Bangor

4.00

Zentaboliaeth Poetry Workshop

TOGY

8pm

Wickerperson: Into the Plethawd

Hendre, Pentraeth

Sunday 21st August

11 am

Gwyliodd y Gwylwyr: The watchers watched Sound, Music and dance performance

Eric Sunderland Theatre, Prif Adeilad y Celfyddydau / Main Arts Building, Bangor

12.30

Adwaith Poetry Performance

MALT

3.30pm

Into Deeper Water Sound installation and performance

Gardd Fotaneg Treborth Botanic Gardens, Pacton Cascade

5pm

Humycellium Movement

Bangor Stryd Mawr / High Street

6pm

Ore et Labore Poetry reading and exhibition

Awen 33, Bangor

8 pm

Echolocation Poetry and sound

The Aukland Arms
Porthwaethy.

ALL WEEKEND

 

Films
Dust and Ashes
A Journey Through Consciousness

Pontio Bangor