Sgwrs gyda'r Artistiaid

Cyfweliad gyda'r artist Lindsey Colbourne

Mae’r artist o ogledd Cymru, Lindsey Colbourne, yn siarad am Ŵyl Metamorffosis a sut y bu i’r pandemig sbarduno newidiadau yn ei harferion artistig, gan ehangu ei pherthynas â’r mwy na dynol ac ailystyried ei syniad o beth yw celf, ble a sut y gallai ddigwydd. (Fideo: https://youtu.be/FzkjFbhsIIY)

Cyfweliad gyda Metamorffosis Movement

Mae aelodau Movement Metamorffosis yn siarad am eu harbrawf cinesthetig ar gyfer yr Ŵyl Metamorffosis a sut y gwnaeth iddynt gamu allan o'u parth cysurus i ddimensiwn newydd o agosatrwydd â natur. (Fideo: https://youtu.be/Nz1-VJQdfEY)

Cyfweliad gyda'r bardd Rhys Trimble

Mae’r bardd o ogledd Cymru, Rhys Trimble, yn sôn am Ŵyl Metamorffosis a sut y bu i’r pandemig sbarduno estyniad o’i arferion artistig, gan ehangu ei farddoniaeth i gerddoriaeth a pherfformiadau cydweithredol. (Fideo: https://youtu.be/2vMO7VpPqvo)

Cyfweliad gyda'r ffotograffydd Janet Ruth Davies am ei phrosiect "Hidden in Plain Sight"

Yn ystod yr Ŵyl Metamorffosis buom yn ffodus i gael sgwrs gyda’r ffotograffydd Janet Ruth Davis. Mae Janet yn siarad â ni am ei hymchwil artistig i Erratic Boulders Darwin. Mae hi'n rhannu ei hoff ffotograffau gyda ni ac yn archwilio sut mae'r pandemig wedi newid ei dealltwriaeth o'i phrosiect "Hidden in Plain Sight". Gallwch wylio'r cyfweliad yma.

Cyfweliad gyda'r arlunydd Lisa Hudson


Mae’r artist o ogledd Cymru Lisa Hudson yn siarad am ei hymarfer creadigol yng nghyd-destun mentrau ar raddfa fach fel Gŵyl Metamorffosis ac Utopias Bach a sut y newidiodd ei chydweithrediadau ei harferion artistig.

(Fideo: https://bangor.cloud.panopto.eu/Panopto/Pages/Viewer.aspx?id=300ae717-35d7-409f-b55b-af0d009c7161)

Cyfweliad gyda'r arlunydd Steph Shipley

Mae’r artist Steph Shipley o Ynys Môn yn sôn am sut effeithiodd y pandemig ar ei hymarfer creadigol, a sut y gwnaeth Gŵyl Metamorffosis ac Utopias Bach ei galluogi i symud ei hymarfer i’r lefel nesaf.

(Fideo: https://bangor.cloud.panopto.eu/Panopto/Pages/Viewer.aspx?id=c45c3a82-c6a7-49b4-b542-af0c00c0c29a)