Conference

Call for Papers & Programme

**Scroll down for English**

Galwad am gyfraniadau

Small Scale Solutions: Re-Inventing the Live Event
Cynhadledd Ar-lein, 21-22 Chwefror 2022
Prifysgol Bangor

Call for Submission text

A yw Covid-19 wedi lladd digwyddiadau byw? Mae llawer yn y diwydiannau creadigol yn ofni hynny (e.e. Biado: 2020), ac mae tystiolaeth i awgrymu mai dim ond yn raddol y bydd cynulleidfaoedd yn dychwelyd (e.e. Audience Agency 2021). Felly mae'r ymatebion creadigol gan ymarferwyr y celfyddydau yn ystod cyfnod clo Covid-19 yn debygol o fod yn ganolog i argyhoeddi’r cyhoedd i ddychwelyd i wylio digwyddiadau celfyddydau byw yn dilyn y pandemig. A allwn ddweud yn hyderus: 'Hir oes i ddigwyddiadau byw!'? Ar ôl Covid, bydd digwyddiadau byw yn sicr yn wahanol. Nod ein cynhadledd ar-lein yw rhannu syniadau, profiadau a chanfyddiadau ynglŷn â mathau newydd o ddigwyddiad celfyddydol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn digwyddiadau ar raddfa fach nad ydynt yn cael eu dilyn ar-lein yn bennaf. Gyda'n gilydd, byddwn yn edrych ar yr ymatebion creadigol amrywiol sydd wedi dod i'r amlwg wrth wynebu’r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig mewn perthynas â digwyddiadau byw, ymgysylltu â'r gynulleidfa a chreu awyrgylch ‘fyw’. Bydd y gynhadledd ar-lein yn dwyn ynghyd ymarferwyr, cynulleidfaoedd, rhanddeiliaid, cyllidwyr ac ymchwilwyr.

Rydym yn croesawu cynigion gan artistiaid, ymchwilwyr, cyllidwyr a rhanddeiliaid ar gyfer cyflwyniadau chwarter awr neu weithdai cydweithredol tri chwarter awr. Rydym yn croesawu astudiaethau achos o arferion celfyddydol, enghreifftiau o fformatau digwyddiadau byw a ddatblygwyd yn ystod y pandemig, trafodaethau arfer gorau i gydweithredu â chyllidwyr, artistiaid a rhanddeiliaid yn ogystal â chanfyddiadau ymchwil sy'n gysylltiedig ond heb fod yn gyfyngedig i'r cwestiynau canlynol:

  • Sut mae newidiadau yn sgil y pandemig i amodau cynhyrchu yn effeithio ar greu celfyddydau ar gyfer digwyddiadau byw?
  • Beth yw'r atebion creadigol a ystyriwyd gan artistiaid ar draws genres i ail-ddyfeisio digwyddiadau byw (e.e. safle-benodol, aml-gyfrwng, cyfranogol) o dan gyfyngiadau Covid-19?
  • Sut mae cyfyngiadau Covid-19 yn effeithio ar allu cynhenid digwyddiadau byw i gynhyrchu ymdeimlad o gymuned a galluogi cynulleidfa i rannu profiadau?
  • Sut mae cynulleidfaoedd yn ymateb i ddigwyddiadau celfyddydau byw arloesol, a allai fod yn arbrofol ac yn anghyfarwydd iddynt?
  • Sut mae'r pandemig wedi newid dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cynulleidfaoedd o ddigwyddiadau celfyddydau byw?
  • Pa ffyrdd newydd o gydweithio sydd wedi deillio o gyfyngiadau’r pandemig?
  • A yw'r amodau'n meithrin gweithgareddau newydd lleol rhwng gwahanol feysydd o’r celfyddydau (barddoniaeth a dawns; celfyddydau gweledol a barddoniaeth; perfformio a cherddoriaeth ac ati)?
  • Sut mae artistiaid yn adlewyrchu, yn datrys ac yn delio â chyd-bresenoldeb corfforol (e.e. priodoli nodweddion safle-benodol ac amlgyfrwng)?
  • Sut gellir cynnal y symudiad patrymol creadigol i ddigwyddiadau byw ar raddfa fach leol yn y cyfnod ar ôl Covid-19 (diwylliannol, cymdeithasol, economaidd).
  • Pa wersi sydd i'w dysgu o'r pandemig ar ôl y pandemig?

Cynhelir y gynhadledd ar-lein 21-22 Chwefror 2022. Anfonwch grynodeb o 200-300 gair a bywgraffiad byr erbyn 18 Rhagfyr 2021 at Dr Sarah Pogoda: s.pogoda@bangor.ac.uk

Mae'r gynhadledd yn rhan o'r project ymchwil Covid-19 a gyllidir gan yr AHRC “Re-inventing the Live-Event”. Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://re-inventing-live-events.bangor.ac.uk/index.php.en

Call for Contributions

Small Scale Solutions: Re-Inventing the Live Event
An Online Conference, 21-22 February 2022
Bangor University

Call for Submission text

Has Covid-19 killed the live event? Many in the Creative Industries fear so (e.g. Biado: 2020), and there is evidence to suggest that audiences will only gradually return (e.g. Audience Agency 2021). The creative responses from arts practitioners during the Covid-19 lockdowns are therefore likely to be central to the revitalisation of public engagement with live arts events following the pandemic. Can we say with confidence: ‘Long live the live event!’? Post-Covid, the live event will certainly be different. Our online conference aims to share ideas, experiences and findings around new kinds of art event. We are particularly interested in small scale events which are not mainly pursued online. Together we will explore the diverse creative responses which have emerged to meet the challenges presented by the pandemic in relation to live events, audience engagement and the creation of ‘liveness’. The online conference will bring together arts practitioners, audiences, stakeholders, funders and researchers.

We welcome proposals by artists, researchers, funders and stakeholders for either 15-minute presentations or for collaborative workshops of 45 minutes. We welcome case studies of arts practices, examples of live event formats developed during and for pandemic times, discussions of best practice for collaborations with funders, artists and stakeholders as well as research findings related but not limited to the following questions:

  • How do pandemic-related changes to conditions of production affect art-making for live events?
  • What are the creative solutions explored by artists across genres to re-invent live events (e.g. site-specific, multi-media, participatory) under Covid-19 restrictions?
  • How do Covid-19 restrictions affect the intrinsic power of live events to generate a sense of community and enable shared experiences?
  • How do audiences respond to innovative live arts events, which might appear experimental and unfamiliar to them?
  • How does the pandemic change audiences’ understanding and appreciation of live arts events?
  • What new ways of collaborating emerged from pandemic-related restrictions?
  • Do the conditions foster new local cross-arts activities (poetry and dance; visual arts and poetry; performance and music etc.)?
  • How do artists address, reflect and resolve the issue of bodily co-presence (e.g. appropriating site-specific and multimedia features)?
  • How can the creative paradigmatic shift to local small-scale live events be sustained for post-Covid-19 recovery (cultural, social, economic)?
  • What lessons to learn from the pandemic beyond the pandemic?

The online conference will be held 21-22 February 2022. Please send an abstract of 200-300 words and a short bio by 18 December 2021 to Dr Sarah Pogoda: s.pogoda@bangor.ac.uk

The conference is part of the AHRC funded Covid-19 research project “Re-inventing the Live-Event”. For further information, please visit: http://re-inventing-live-events.bangor.ac.uk/index.php.en